Ymholiadau’r Wasg a’r Cyfryngau
Am fwy o fanylion cysylltwch a’r trefnwyr
Rhian Haf Jones
rhian@celfeden.com
07795 274266
Edward Elias
edward@celfeden.com
07780 838215
Shari Llewelyn
shari@celfeden.com
07779 401835
neu post@celfeden.com
ymwelwch a’r wefan www.celfeden.com
Naomi Jones ar ran Bwrlwm Eryri
naomi.jones@eryri-npa.gov.uk
01766 772517
Alun Gruffydd ar ran Plas Tan y Bwlch
Alun.Gruffydd@eryri-npa.gov.uk
01766 772623
CelfEden
CelfEden 14-21 o Fehefin 2009
Digwyddiad newydd i uno artistiaid, ieithoedd lleiafrifol a diwylliant yw CelfEden. Cyfle unigryw i ymateb i naws, ysbryd ac amgylchedd Cymru trwy ystod o gyfryngau celfyddydol. Mae’r wythnos wedi ei dylanwadu gan wythnos gelfyddydol rhyngwladol Arteden yn Lonjer, Trieste sydd wedi dennu artistiaid o Gymru a thu hwnt ers ei sefydlu yn yr Eidal yn 2003.
Naw artist preswyl fydd prif ffocws CelfEden eleni. Fe fydda nhw yn creu gwaith newydd ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog ar lecyn godidog ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei efeillio gyda Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slovenia. 
Croesewir yr artistiaid mewn agoriad swyddogol yn y Plas am 7pm ar nos sul y 14eg o Fehefin. Yr artistiaid o Gymru fydd Catrin Williams o Bwllheli, Owen Griffiths o Abertawe, Megan Broadmeadow o Fae Colwyn, Joe Roberts o Gaernarfon a Femke Van Gent yn wreiddiol o’r Iseldiroedd sydd wedi dysgu Cymraeg a bellach wedi ymgartrefu ym Mhorthaethwy. Y cyfranwyr tramor fydd yr artist Jorge Raedó o Barcelona, Nadine Haberthuer sydd yn wreiddiol o’r Swistir a bellach yn byw yng Nghaeredin ac Alessandra Cimatoribus a Luisa Tomasetig o Friuli, Yr Eidal.
Bydd yr artistiaid yn creu gwaith ym Mhlas Tan y Bwlch o 10am - 4pm, a bydd gweithdai a theithiau tywys ar gael i grwpiau cymunedol ac ysgolion.
Ynghyd a’r noson agoriadol i groesawu yr artistiaid bydd noson ‘Cyfnewid Cerdd’ yng nghwmni Gai Toms a Gwibdaith Hen Fran yn y Ring, Llanfrothen ar y 17eg o Fehefin am 9pm. Ac yn Galeri Caernarfon ar y 19eg o Fehefin am 8pm bydd Cymdeithas y Rhyfeddod yn cynnig eu croeso gyda Gorwel a Fiona Owen, Rhodri Davies, Bedwyr Williams, Rêl Institute a Cherddorfa Cymdeithas y Rhyfeddod.
Mewn partneriaeth gyda Bwrlwm Eryri bydd gweithdai amrywiol ac ystod o weithgareddau yn y gymuned yng nghwmni artistiaid, beirdd, storiwyr a cherddorion.. Yn eu plith cyfres o weithdai gyda’r rapiwr a’r beat-bocsiwr, Ed Holden gyda Llywio’r Llwybr ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd dysgwyr Cymraeg a’r gymuned ehangach yn Datod Tafod, Talysarn a’r Felin Sgwrsio yn Y Felinheli, yn cael cwmni y Prifardd a Bardd Plant Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Comisiniwyd yr artist amgylcheddol, Tim Pugh i arwain gweithdai celf gweledol gyda sawl grŵp yn Antur Waunfawr.
Cyfle i bawb rwydweithio, cymryd rhan a dathlu diwylliant. Dyna fydd CelfEden. Bydd Tim Pugh, Ed Holden, y storiwraig Cath Aran a’r bardd Mei Mac hefyd yn arwain gweithdai celf ar gyfer plant yn ystod yr wythnos yn y Plas gan ymateb i waith yr artistiaid. Bydd elfennau o’r gweithdai a holl waith gorffenedig yr artistiaid i’w weld yn yr arddangosfa ar ddiwedd yr wythnons ym Mhlas Tan y Bwlch ar yr 20fed o Fehefin am 7pm.
DIWEDD
Amserlen
Sul 14.06 Agoriad swyddogol CelfEden, Plas Tan y Bwlch 7pm
Mercher 17.06 Cyfnewid Cerdd, Ring Llanfrothen 9pm
Gwener 19.06 Cymdeithas y Rhyfeddod, Galeri Caernarfon 8pm (£6)
Sadwrn 20.06 Arddangosfa CelfEden, Plas Tan y Bwlch, 7pm

This is a multi-lingual event - for more information in Welsh and English visit the CelfEden website.