Bethan Lloyd
Mae Bethan yn byw yn Nhregarth ger Bethesda. Mae hi wedi cyflwyno gigiau a chyngherddau byw ar Radio Cymru a bu yn gyd-gyflwynydd ar raglen cerddoriaeth Hipstar, S4C, ynghyd a gweithio fel Golygydd Teledu. Y flwyddyn hon, sefydlodd Bethan Gwyl Gerddoriaeth Bang Bangor a mae hi rwan hefyd yn Ymgynghorydd Marchnata hunan-gyflogedig.
Bethan Lloyd lives in Tregarth, Bethesda. She has presented live gigs and concerts for Radio Cymru and was co-presenter of S4C's music programme Hipstar, as well as being a TV Editor. This year Bethan established the Bang Bangor Music Festival and is now working as a self-employed Marketing Consultant.
Hud a lledrith v Biwrocratiaeth
Dwi’n ysgrifennu hwn wrth eistedd yng nghyfforddusrwydd stiwdio Nant y Benglog - cartref fy nghariad, John. Mae hi’n rhynllud o oer tu allan... troed Tryfan ond rhyw ganllath i ffwrdd... ac adlewyrchiad y lleuad llawn arno yn creu rhyw ysbryd hudolus i’r holl le. Mae tomen o bren wedi’w stwffio i dop y twll tan... a’r arolgau pren tamp yn llosgi yn gymysg a’r Nag-Champa.
Ond i roi’r mefusen goch ar ben yr hufen, dwi’n profi’r holl ogoniant roc’n’rôl Gymreig yma yng nghwmni’r cerddorion mwyaf talentog y wlad. Mae swyn cerddoriaeth anhygoel Kev Fox yn recordio’i albwm newydd dan gynhyrchiad John yn rhoi iâs oer i lawr fy nghefn cynnes. Pleser pur.
Nid o Gymru mae Kev yn dod, ond o Fanceinion. Eto, mae o wedi cael ei gyflwyno i sîn gerddoriaeth chwaethus Gogledd Cymru. Yn hytrach na darganfod stiwdio state-of-the-art mewn adeilad di-gymeriad, modern, canol dinas, mae wedi dewis treulio’r wythnosau nesaf mewn tŷ capel anial, heb wres canolog, sy’n dyddio’n ôl i 1853! Pam setlo am y fan hyn? Pam ddim dilyn ei freuddwydion yn y ddinas? Tydi’r ddinas fawr ddim yn cynnig mwy? Galwch nhw’n hipis, yn feudwyr, yn beth bynnag liciwch chi, ond does dim dwywaith, mae’r ardal hon yn denu’r cerddorion gorau oherwydd mae’r rhan yma o’r byd yn le i ffoi ac yn le i’r enaid ddarganfod ei hun a’i greadigedd.
Wrth gychwyn trefnu gwyl Bang Bangor, gwnes weithdy brandio gyda ffrindiau a fy nghyd-drefnwyr, Pa air oedd yn dod i’n meddwl wrth feddwl am Bangor a’r cyffiniau? Pa deimlad? Pa liw? A’r holl ymatebion yn ymwneud â swyn y lle, y teimlad hudolus sydd i’r lle... rhywbeth yn ymwneud a’r mynyddoedd a’r môr mor agos, mae’n debyg... efallai? Roedd pawb yn ei chael hi’n anodd rhoi bys arno.
Mae ‘pobl o’r tu allan’ yn gweld a theimlo’r hud a lledrith yma; mae’r artistiaid yn ei deimlo; ynghŷd â’r miwsig-lyfyrs a’r miwsig-promotyrs. Ac mae’r teimlad yma’n un anhygoel o gryf. Ma’i gryfder yn peri i’r celfyddyd a’r cerddoriaeth sy’n dod o’r fan hyn fod yn wahanol i gelfyddyd y dinasoedd mawrion, sy’n troi’r un hen beth allan drosodd a throsodd. Yn fan hyn, mae artistiaid yn arbrofol ac yn herio’r ffinniau.
A dyma pam y bu i Llio, Al a finne benderfynnu trochi llewys a sefydlu gwyl Bang Bangor i lwyfannu’r holl dalentau hyn. Mae’n hen bryd clodfori’r ardal a’i doniau.
Aethom ati’n ddygn am 8 mis i geisio darparu gwyl oedd yn defnyddio Bangor fel llwyfan i berfformwyr lleol a thu hwnt berfformio arni. Gwyl pedwar diwrnod oedd yn rhoi cyfle i bawb sy’n mwynhau cerddoriaeth fwynhau ansawdd uchel o berfformiadau byw. Gwyl fyddai hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol. Yn anffodus, er ein bod ni yn gweld hud a lledrith yn yr ardal yma, tydi pawb ddim...yn cynnwys y sector gyhoeddus, sydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn a digalon iawn cadw’r momentwm a’r ysbryd bositif, gan fod cymaint o dâp-coch yn rhwystro’r swyn rhag digwydd.
Un peth yw adnabod rhywbeth arbennig mewn lleoliad, ond peth arall yn gyfan gwbwl yw troi’r holl siarad a thrafod syniadau yn realiti. Rhoi’r geiniog yn ein cegau, fel sa’r Sais yn dweud! Ond y geiniog sy’n ei gwneud hi mor anodd i unrhyw beth o ansawdd oroesi.
Sut mae cychwyn gwyl gerddoriaeth heb arian? Noddwyr? Pa fusnes sydd eisiau cefnogi ryffians swnllyd yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni? Arian cyhoeddus? Does dim gwerth i’w gael ac mae’r broses yn hollol wirion bost ac yn cymryd amser ac amynedd Jôb. Os ydy un yn llwyddo i dderbyn arian cyhoeddus, yna mae’r holl logos sydd RHAID ei gael ar bob un defnydd marchnata yn gwneud i’r wyl edrych fel quango. Bad press yn syth bin! Ro’i enghraifft ichi...bu raid inni roi 5 logo i ddangos bod cyfraniad o ddim ond £1,000 wedi’i wneud gan gronfa sy’n hyrwyddo a “sbarduno mentergarwch ac arloesiad mewn cymunedau...”. (I wyl a gostiodd ddeg-gwaith yn fwy na’r cyfraniad, swm pitw iawn oedd hynny!) Yna, mae mwy o reolau...rhaid i’r logos fod yr union liw, yr union faint, ar dudalen flaen popeth ac yn y lle iawn – sy’n gwneud gwaith y dylunydd graffeg yn hunllef.
Ond y broses o geisio am y swm pitw yw’r draffeth a’r anhegwch go iawn. Mae hi’n cymryd misoedd ar fisoedd i lenwi’r llythyr cais diflas, hirwyntog. Mae nhw’n mynnu cael tystiolaeth am hyn llall ac arall – tystiolaeth am bethau sydd heb eu prynu, mynd i’w prynu, tystiolaeth am “oes angen hyn?”, tystiolaethau cefnogaeth pob Tom, Dic a Hari. Hyn am grant o £1,000 yn unig! Hollol afresymol...fel petai gan hyrwyddwyr a threfnwyr dim digon ar eu plat yn barod?! ‘Cefnogaeth’?! Rhwystrediageth! Digalon; yn enwedig o gofio mai ymdrech o greu ‘mentergarwch’ a gwella’r gymuned wrth ‘fentro’ yw’r holl fwriad!
Ond ta waeth...mi ddof yn ôl i’r presenol...i gyfforddusrwydd y stiwdio yng nghanol Eryri...ac atgoffa fy hun nad oes angen i’r un biwrocratiaeth na thâp-goch roi dampar ar yr hud sy’n cael ei greu gan dalentau hynod hyn, sydd unai’n dod o’r ardal hon, neu’n dewis dod iddi. Efallai bydd ambell i noson ddi-gwsg o ‘mlaen i pan yn dechrau ar Bang Bangor 2010! Ond dim ots. Rydw i’n cael f’atgoffa pob dydd pam mae hyrwyddwyr yn gwirfoddoli rhoi’i holl enaid i wneud gwaith di-ddiolch a llafurus iawn yn yr ardal hon – achos mae’r lle yma yn berwi o hud a lledrith cerddorol. A mae arnon ni ddiolch mawr i’r lle.
Post a comment:
Leave the 'name' field blank if you wish to remain anonymous.
Your email is required but will never be published.
Your name:

Your email:

Your comments: